![]() ![]() |
![]() |
||||||||||||||
Amdanom NiMae Eurwyn a Gillian Williams wedi ymgartrefu ar ynys Môn ers dros bum mlynedd ar hugain bellach, ac yn mwynhau dysgu a dod i adnabod eu hardal. Mae cerdded wedi bod yn un o'u diddordebau amser hamdden ers tua ugain mlynedd.. Mae Eurwyn wedi byw ar yr ynys erioed ac yn adnabod hanes a thraddodiadau yr ardal. Mae'r ddau yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cefndir y byd teledu sydd gan y ddau a does na ddim byd gwell gan Eurwyn ar ôl cyfnod o weithio yng Nghaerdydd na chael dod adref i gerdded yr arfordir a mwynhau'r elfennau a'r golygfeydd.. Yn 2006 penderfynodd Eurwyn a Gillian sefydlu cwmni gwyliau Crwydro Môn gyda'r gobaith o allu cynnig yr un wefr a'r siawns i gerddwyr a brofir gan Eurwyn a Gillian eu hunain tra'n cerdded y llwybrau. . Cafwyd tipyn o sylw i'r fenter newydd gan y BBC (radio a theledu) a'r papurau lleol..
Gillian yn cael ei chyfweld ar gyfer Newyddion BBC
Ers cychwyn yn 2006 cafwyd dipyn o lwyddiannau eraill. Enillwyd tlws Gwobrau Twristiaeth Ynys Môn am y Gweithgaredd Awyr Agored Gorau yn 2008. 2009 - 2 wobr. Enillwyr y Gweithgaredd Awyr Agored Gorau a'r cwmni sy'n gweithio'n trwy gyfrwng y ddwy iaith. 2010 - Gwobr Arian - Enillydd Gweithgaredd Awyr Agored Gorau 2010.
|
|||||||||||||||