GOLEUDY YNYS LAWD, CAERGYBI

Cerdded Yr Ynys

Trwy gerdded Llwybr Arfordir Ynys Môn gall y cerddwr weld bob mathau o dirweddau dramatig a difyr.  Mae 95% o'r gylch-daith 125 milltir (200 km) wedi ei glustnodi fel Ardal o Harddwch Arbennig.

'Does dim rhaid bod yn gerddwr profiadol i fwynhau pecynnau CRWYDRO MÔN - ANGLESEY WALKING HOLIDAYS.  Mae pob un o'r deuddeg taith yn addas i heicwyr o bob oed a gallu, yn eich arwain ar draws creigiau uchel, twyni tywod, corsydd, traethau, aberoedd arfordirol, tir fferm a choedwigoedd.  Cliciwch ar Y Teithiau i gael gwybodaeth fanwl am bob taith yn unigol.BLODAU A BYWYD GWYLLT AR YNYS MON

Mae  Ynys Môn yn frith o gynefinoedd gwyllt ac yn nefoedd i adarwyr, yn denu adar pâl, cornicyll y dwr, gwenoliaid y môr, y bilidowcar a nifer eraill o adar gwyllt ac adar dwr.  Hefyd, gan fod y tywydd yn fwynach nag ar y tir mawr, mae'r ynys yn ffynnu o flodau gwyllt.

Dilyn yr arfordir wna'r TEITHIAU, sy'n amrywiol a diddorol.   Mae tair ohonyn nhw'n mynd trwy Warchodfeydd Natur yng Niwbwrch, Cemlyn,(ger Cemaes) a Phenrhos, Caergybi, tra bod teithiau eraill yn eich arwain at safleoedd hanesyddol a chyn-hanesyddol.

Ceir dros 70 o safleoeddd sydd o ddiddordeb archaeolegol ar yr ynys. Mae'n ardal s'yn frith o feini hirion a siamberi claddu.   Ar hyd teithiau eraill, gwelwch olion caerau o'r Oes Haearn, ffynhonnau cysegredig, eglwysi hynafol, hen weithfeydd brics, a'n Sw Fôr unigryw.

Mae gan ecolegwyr ddiddordeb mawr yn Ynys Môn, a hynny oherwydd yr amrywiaeth o greigiau a mwynfeydd sydd arni, mwy mewn teip ac oedran, nag unrhyw le arall yn y byd.  Saif safle Chwarel Gopr Mynydd Parys ychydig filltiroedd oddiar un o'r teithiau.

Ar y mwyafrif o'r teithiau dyddiol, pe dymunwch, gallwch leihau'ch siwrnai a threulio mwy o amser yn ymweld â safleoedd gwahanol o bwys.   Mae 'na blasdai fel Plas Newydd, cestyll, amgueddfeydd, canolfannau ymwelwyr, goleudai, safleoedd hanesyddol, canolfannau marchogaeth ceffylau, heb sôn am ein Sw Fôr arbennig, dim ond ychydig lathenni oddiar y llwybrau.

Ar y llaw arall, mae Ynys Môn yn lle braf i wneud dim ond ymlacio.  Mae'r traethau yn lân, yn saff ac yn ddelfrydol i blant o bob oed!   Pob un yn wahanol, mawreddog yn eu ffordd eu hunain.  Fel y dyweddodd un ymlweydd o'r America "The Isle of Anglesey is just one big, beautiful beach".

Gall yr ynys frolio traethau Baner Glas yn Llanddwyn, Benllech, Llanddona, Bae Trearddur, Porth Dafarch ac Aberffraw.

Cliciwch yma i lawrlwytho taflen hysbysebu Crwydro Môn - Anglesey Walking Holidays

(Peidiwch â'i lawrlwytho os nad ydych yn defnyddio Broadband.)

Cysylltiadau | ©2007 Crwydro Môn