Y Gwasanaeth
LLETY
Mi drefnwn wyliau yn arbennig ar eich cyfer chi. Bydd y pris (ar ôl i chi lenwi'r ffurflen ymholi) ar sail dau berson yn rhannu stafell ddwbwl neu ddeu-wely. Mae'r prisiau yn cychwyn o tua £60 y pen y noson. Bydd raid talu rhywfaint yn ychwanegol pe dymunir cael stafell sengl. Bydd hyn yn dibynnu ar y llety.
Yn gynnwysiedig yn y pecyn gwyliau cewch eich llety, boed mewn Gwely a Brecwast, tai preifat, ffermdai, ac weithiau mewn gwestai a thafarndai. Ceisiwn drefnu gwestai gyda stafelloedd ymolchi preifat lle bo modd. Ond, pe dymunech rywbeth gwahanol, neu westy mwy moethus, rydym yn hapus i drefnu ac addasu'r pris i chi.
PRYDAU
Mae'r pris yn cynnwys gwely a brecwast Cymreig neu "Continental". Byddwch chi'n gyfrifol am brynu eich pecynnau bwyd a phrydau nos, ynghyd ag unrhyw ychwanegolion. Mae'n bosib cael prydau gyda'r nos yn rhai o'r llefydd aros, ond ran amlaf mae na ddigon o ddewis o westai, tai bwyta, tafarndai yn y pentrefi a'r trefi.
TROSGLWYDDO BAGIAU
Trefnwn hyn rhwng y teithiau. Mi fyddwch yn aros o leiaf 2 noson yn yr un lle ar ein teithiau. Os ydi diwedd y daith rhy bell oddi wrth y gwesty, byddwch yn cael eich cludo nôl i 'r gwesty ar ddiwedd y dydd. Pob tro y byddwch yn cyrraedd gwesty gwahanol, bydd eich bagiau yn aros amdanoch, sydd yn eich gadael chi i gario dim ond y pethau angenrheidiol ar gyfer eich taith ddyddiol.
PECYN GWYBODAETH
Cyflenwi mapiau OS gyda'r llwybrau wedi eu marcio'n glir arnynt.
Gwybodaeth am y daith ddyddiol ynghyd â manylion hanesyddol a lleol.
Mapiau o'r trefi neu gyfarwyddiadau i'r gwestai.
Awgrymiadau ar lefydd i yfed, cinio a phrydau gyda'r nos.
Enwau banciau, swyddfeydd post.
Gwybodaeth a rhifau argyfwng.
DOES DIM ANGEN CAR
Ar ôl cyrraedd Ynys Môn, does dim angen car arnoch, gan ein bod ni yn gwneud y cludo i gyd. Caiff eich car ei gadw mewn lle saff tan ddiwedd eich gwylilau.
DDIM YN Y PRIS
Pecynnau bwyd amser cinio (gallwn ni drefnu hyn ymlaen llaw)
Fel arall, mae na ddigon o siopau pentref neu fodurdai yn gwerthu bechdannau. Nid yw prydau gyda'r nos, tâl mynediad i gestyll, amgueddfeyd, tripiau cwch, Sw Fôr, ffermydd ac ati yn cael eu cynnwys yn y pris cychwynnol. Ni fydd unrhyw gludiant o feysydd awyr yn y pris chwaith.
BETH I DDOD GYDA CHI
Esgidiau cerdded, sannau. Bag dydd i gario pecynnau bwyd a diod. Siaced a throwsus gwrth-ddwr. Cap neu het gynnes. Cap haul/hufen haul. Bocs cymorth cyntaf. Ffon gerdded yn gallu bod yn werthfawr ar rai o'r teithiau yn ogystal â chamera a beinociwlars.
ARWAHANRWYDD Y GWYLIAU
Teithiau hunan-dywysiedig, cael cerdded wrth eich pwysau eich hun.
Arbenigrwydd- gwyliau wedi ei greu i'ch siwtio chi..
Dim gyrru.
Popeth wedi ei drefnu ymlaen llaw.
Rhannau o'r arfordir yn amhosibl ei gyrraedd ond ar droed neu mewn cwch.
SUT I DDOD I FÔN
Car - o'r M6, ymunwch â ffordd ddeuol yr A55, sy'n dod a chi dros Bont Britannia i Fôn.
Bws - i Fangor, Gwynedd.
Trên - i Fangor, Gwynedd neu i Lanfairpwll, Ynys Môn.
Cwch - o Ddulyn i Gaergybi.
Awyren - o Fanceinion neu Lerpwl. Cludiant yn bosibl ond am bris ychwanegol.
Awyren o Gaerdydd i'r Fali, Ynys Mon. www.highlandairways.co.uk