Y Pecynnau

Dyma rai o'r pecynnau y gallwn eu cynnig.  Mae unrhyw becyn yn bosibl ....... 'rydan ni ar ben arall y ffôn i drafod unrhyw bosibiliad ........... 01248 713 611

 

PECYN YNYS CYBI

Pecyn sy'n eich lleoli ym Mae Trearddur ar Ynys Cybi ar arfordir gogledd orllewinol Ynys Môn.

5 NOSON gwely a brecwast mewn gwesty bychan gydag ystafell "en suite". 4 DIWRNOD O GERDDED, 4 PECYN BWYD, manylion y teithiau a mapiau OS, cludiant nôl a mlaen o'r Llwybr pan fo angen.

Gwybodaeth pellach.....

 Dydd 1.

Cludiant o orsaf Caergybi a'ch trosglwyddo i'r gwesty ym Mae Trearddur. Mae Bae Trearddur ar ochr orllewinol Ynys Cybi, yn edrych allan i Fôr Iwerddon.   Mae'r pentref wedi ei leoli o amgylch bae hyfryd, gyda thraeth euraid (Baner Glas).  Ardal boblogaidd iawn i dwristiaid ar Ynys Môn. 

Dydd 2

Cludiant o'r gwesty i Borth Swtan (Church Bay) lle cewch ymweld â Thy Swtan, yr unig fwthyn tô gwellt sydd ar ôl ar yr ynys.  Wedyn, cewch gerdded yr arfordir gogleddol tuag at Y Fali, gyda golygfeydd godidog am Fynydd Caergybi a phorthladd prysur y llongau fferi i'r Iwerddon. 

Mi fyddwch yn ymweld â thraethau cuddiedig Traeth Crugmor, Porth Trwyn, Porth Trefadog, a Phorth Tywyn Mawr, cyn ymuno â'r llwybr cysgodol o amgylch y creigiau fydd yn eich arwain i groesi'r Cob (Stanley Embankment) i Ynys Cybi a Gwarchodfa Natur Penrhos, gan orffen eich taith yng Nghaergybi ei hun.

Dydd 3

Cychwyn heddiw yng Nghaergybi, gan adael y porthladd prysur a dringo'r 610 metr i ben Mynydd Caergybi, gan basio olion caer yn dyddio nôl i'r Oes Haearn.. 

Dilyn y llwybr at Oleudy enwog Ynys Lawd (South Stack).  Ewch lawr y 400 o risiau i'r amgueddfa sy'n olrhain hanes y goleudy ac/neu ymwelwch â thwr gwylio'r RSPB (Twr Elin) cyn dilyn yr arfordir dramatig o gylch y creigiau gyda golygfeydd bendigedig trosodd am Ben Llyn, cyn diweddu ym Mae Trearddur ei hun.

Dydd 4

O Fae Trearddur, mi fydd y llwybr yn eich arwain lawr ochr orllewinol Ynys Cybi, ar hyd arfordir dramatig gyda ffurfiadau creigiaiu difyr fel y Bwa Gwyn a'r Bwa Du.  Yna dringo'n raddol nes cyrraedd Rhoscolyn a'i Ffynnon Sanctaidd (Ffynnon Gwenfaen) cyn disgyn unwaith eto i draethau melyn Borthwen a Thraeth Llydan (Slver Bay).  O'r fan yma, mae'r llwybr yn eich arwain ar hyd lonydd cefn gwlad a thir fferm nes cyrraedd Pontrhydbont. (Four Mile Bridge).

Dydd 5 

Y diwrnod olaf - eithaf gwastad, gyda thraethau llydan tywodlyd, fydd yn mynd heibio Barclodiaid y Gawres ( siambr gladdu o'r Oes Neolithig, - y fwyaf o'i bath yng Nghymru).  

Mae'r llwybr yn eich arwain i Egwlys Santes Cwyfan, eglwys sydd wedi ei hadeiladu ar graig ynghanol y môr.  Ar lanw isel, mae'n hawdd croesi i 'r eglwys.  Oddi yma, dilyn yr arfordir i bentref Aberffraw, a fu unwaith yn brifddinas Cymru!!!   Hyd at 1282 Aberffraw oedd un o brif lysoedd Tywysogion Gwynedd hyd farwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf..

Dydd 6

Gadael o orsaf drenau Caergybi.

 PRIS Y PERSON : £370 (2 YN RHANNU)/ £395 (STAFELL SENGL)

PENWYTHNOS I DDYSGWYR

MEDI 2008

2  noson gwely a brecwast, 1 diwrnod o gerdded gyda thiwtoriaid, 2 noson o adloniant.

Am fwy o wybodaeth

 

TAITH O AMGYLCH YNYS MÔN - 5 DIWRNOD

Taith 5 diwrnod yn cynnwys 5 noson gwely a brecwast mewn un neu ddau leoliad.(Bydd y lleoliad cyntaf yn Ne'r ynys, a'r ail ar yr arfordir dwyreiniol).  4 diwrnod o gerdded , pecynnau bwyd, cludiant dyddiol, mapiau OS a manylion trylwyr o bob taith ddyddiol.

Dydd 1 : Cyrraedd.   

Cludiant o orsaf drenau Bangor neu Lanfairpwll i'r gwesty.  Fel arfer, mae'n gwestai i gyd gydag ystafelloedd " en suite" ac wedi eu graddio gan Croeso Cymru/AA.

Day 2:- Taith Ramantus- 7 milltir

Cludiant i Niwbwrch ar arfordir orllewinol yr ynys.  Dyma leoliad un o'r traethau  mwyaf poblogaidd ac adnabyddus (Ynys Llanddwyn) gyda golygfeydd penigamp am Eryri a Phen Llyn.

Dilyn y traeth i Ynys hudolus Llanddwyn (Llanddwyn Island).  Mae'r ynys fechan yma wedi ei henwi ar ôl nawdd-sant y cariadon, Dwynwen.  Dwynwen ydi'r fersiwn Gymreig o St. Valentine’s.  Defnyddiwyd yr ynys yma hefyd fel un o brif leoliadau'r ffilm“Half Light”gyda'r seren Demi Moore. 

Lluniau: y goleudy, bythynod y peilotiaid, a Ffynnon Dwynwen.

Gwneud eich ffordd nôl ar hyd y traeth a thrwy'r Warchodfa Natur i Lyn Rhos Ddu.

Croesi Cerrig Camu Braint , a dilyn y llwybr i Dal-y-Foel, gyda golygfeydd gwych unwaith eto o'r Afon Fenai a Chastell Caernarfon, castell adeiladwyd gan Edward I sydd bellach yn Safle Byd Enwog. (World Heritage Site).  Gorffen yn Sw Fôr Môn, ger Brynsiencyn, a chludiant nôl i'r gwesty.

Dydd 3: Taith y Pontydd- 4 milltir 

Cludiant o'r gwesty i Lanfairpwll, (y pentref gyda'r enw hiraf ym Mhrydain os nad y Byd)! 

Cyrraedd y Llwybr Arfordirol gan basio cartref yr arlunydd o fri Syr Kyffin Williams ( fu farw ym 2006). 

Heddiw, mae 2 bont yn croesi'r Afon Fenai i'r tir mawr  - Pont Menai a adeiladwyd gan Thomas Telford, a Phont Britannia a adeiladwyd gan Stephenson.

Mae'r daith arbennig yma yn eich galluogi i astudio gwneuthuriad gwahanol y ddwy bont..  Cofiwch fynd oddiar y llwybr am ychydig i weld y ddau lew tew sy'n gorwedd reit o dan Bont Britannia.  Yna, dilynwch lwybr yr afon i bentref Porthaethwy.

Ar ddiwedd y daith, cewch ymweld â Phlas Newydd, cartref Ardalydd Môn,  sydd wedi ei leoli ar lan yr Afon Fenai.   Heddiw, mae Plas Newydd yn cael ei weinyddu gan yr Yddiriedolaeth Genedlaethol.  Nid yw tâl mynediad i Blas Newydd wedi ei gynnwys ym mhris pecyn Crwydro Môn.

Dydd 4:  Taith Hanesyddol - 6 milltir

Cychwyn taith heddiw gydag ymweliad â Chastell Bwimares (Safle Byd Enwog).

Castell Beaumaris oedd yr olaf o'r cestyll i gael ei adeiladu yng Nghymru gan Edward I. O bosibl, hwn ydi'r esiampl gorau o bensaerniaeth milwrol Canol Oesol ym Mhrydain i gyd.

Oddi yma, dilynwch y môr, gan basio Llanfaes, i begwn mwyaf dwyreiniol Ynys Môn, sef Penmon.  Cewch ymweld â Phriordy Penmon, mynachdy sy'n dyddio nôl i'r chweched ganrif i ddyddiau Sant Seiriol.  Gyferbyn â'r priodry mae yna ffynnon sanctaidd a thwr adar yn dyddio nôl i 1600.

Dilyn y ffordd o'r priordy i Drwyn Du (Penmon Point) a'r goleudy enwog.

Cludiant nôl i'r gwesty o Drwyn Du..

Dydd 5:Taith Arfordir Ddwyreiniol Môn - 8 milltilr 

Llanddona i Foelfre.

Cychwyn ar Draeth Llanddona gyda 'r arfordir dwyreiniol o'ch blaen ond gwyliwch rhag ofn i chi ddod ar draws Gwrachod enwog Llanddona!

Dilyn yr arofridr yma, neu ddilyn llwybr trwy'r goedwig (ardal sydd bellach yn Ardal Gwarchod Gwiwerod Coch), reit rownd y bae, sy'n Ardal o Harddwch Eithriadol, i Draeth Coch. (Red Wharf Bay). 

Cymerwch hoe fach yn nhafarn henafol  y Ship Inn  neu fwyty'r Boathouse , cyn dilyn y llwybr i Benllech, sydd wedi ei glustnodi fel traeth Baner Glas..

O Benllech, mae'r llwybr yn esgyn tipyn, ac yn eich arwain i Moelfre. Mae Moelfre yn bentref arbennig fydd yn eich atgoffa o atgof plentyn o bentref bach glan y môr - gyda'r cychod pysgota lliwgar, bâd achub, a straeon di-ri am fôr-ladron a thrychinebau morwrol.

Ym 1859 fe suddodd yr enwog Royal Charter oddiar arfordir Moelfre, a bu Charles  Dickens yn yr adral yn ysgrifennu erthyglau papur newydd am y drychineb. 

Mae'r arfordir dwyreiniol yma yn fan arbennig i wylio trafnidiaeth y môr, gyda'r cychod mawr yn hwylio nôl a mlaen o Lerpwl.  Ymwelwch ag Amgueddfa y Bad Achub cyn cael eich cludo nôl i'r gwesty ar ddiwedd y dydd.

 

Dydd 6:  Gadael

Cludianat i orsaf drenau Bangor neu Lanfairpwll.

PRIS:  £370       Y PERSON (2 YN RHANNU) (£395 STAFELL SENGL)

7 NOSON HUNAN -DDARPAR

Aros yng   NGHANOLFAN GWLEDIG LLYS LLYWELYN, Aberffraw.

Saif pentref bychan Aberffraw mewn Ardal o Harddwch Arbennig ar ochr orllewinnol yr ynys, lleoliad arbennig i ymlacio a mwynhau eich gwyliau cerdded, a hynny yn agos i un o draethau mwyaf poblogaidd Ynys Môn.

Lle aros steil Studio i 2 berson.  Lolfa agored gyda chegin a lle bwyta gyda futon a gwely "bunk".  Cawod a WC.

6 diwrnod o gerdded Llwybr Arfordir Môn, gyda chludiant dyddiol a phecynnau bwyd.  Cyflenwir mapiau a manylion trylwyr o bob taith. 

 

PRIS Y CWPWL: £400

Chwefror 1af - Mawrth 31 a  Ebrill 14- Mai 26 

Gwyliau Pasg ac o Fai 26 ymlaen mi fydd y prisiau yn codi rhywfaint.  Plis ffoniwch. 

****Gwyliau 3 noson ar gael hefyd

 

3 NOSON I DEULU (2 & 2) lleoliad canolog

3 NOSON GWELY A BRECWAST,   2 DDIWRNOD O GERDDED  (DEWIS UNRHYW 2 O'R 12 TAITH ) sy'n cynnwys cludiant i'r llwybr/ mapiau a manylion y teithiau.

3-4*** B&B= £395 PECYN

5 NOSON I DEULU (2 & 2) lleoliad canolog/ neu 2 le gwahanol

5 NOSON GWELY A BRECWAST, 4 DIWRNOD O GERDDED (DEWID UNRHYW 4 O'R 12 TAITH) sy'n cynnwys cludiant i'r llwybr/ mapiau a manylion y teithiau.

3-4*** B&B=£650 PECYN

 

GWYLIAU YN UN O WESTAI MWYAF MOETHUS MÔN (VISIT WALES 4 & 5**** COUNTRY HOTELS)

6 NOSON GWELY A BRECWAST, 4 PRYD GYDA'R NOS, 5 DIWRNOD O GERDDED (DEWIs UNRHYW 5 ALLAN O 12 O'N TEITHIAU) i gynnwys cludiant i'r llwybr/ mapiau a manylion y teithiau.

PRIS Y PERSON: £695

 

PECYN GWERSYLLA

6 NOSON (2 BERSON, 1 PABELL), 5 DIWRNOD O GERDDED  (TEITHIAU 1-5)

safle agos i dy tafarn poblogaidd (bwyd ardderchog).

£250  PECYN

     MAE GENNYM LAWER O BECYNNAU AR GAEL - FFONIWCH   01248 713 611 neu e-bostio gwybodaeth@crwydromon.com

 

Cysylltiadau | ©2007 Crwydro Môn