Termau ac Amodau Archebu
1. ARCHEBU A THALU
Pan fyddwch yn derbyn llythyr cadarnhau’r archeb gennym ac yn anfon y blaendâl cywir o £50 y person atom, fe fydd cytundeb yn bodoli rhyngoch chi, y prynwr a ninnau, y gwerthwr.
Rhaid talu’r balans yn llawn i’r gwerthwr o leiaf 21 niwrnod llawn cyn dechrau’r gwyliau.
Os bydd y prynwr yn penderfynu canslo’r gwyliau neu os na fydd wedi talu’r balans dyledus o fewn 21 niwrnod cyn dechrau’r gwyliau, ni fydd modd ad-dalu unrhyw arian fydd eisoes wedi’i dalu.
2. FORCE MAJEURE
Os digwydd yr annisgwyl a bod y gwerthwr oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth yn gorfod newid neu ganslo’r gwyliau, yna cynigir taith gerdded debyg neu lety tebyg yn eu lle. Byddwn yn addasu’r prisiau yn ôl y gofyn.
Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig taith i'r Iwerddon i chi, gan ddibynnu ar y tywydd ac ar ba longau fydd yn hwylio. Ni allwn warantu amser na dyddiad hwylio i'r Iwerddon ac yn ôl, ac nid yw’r cytundeb hwn yn warant y bydd llong yn hwylio ar y diwrnod a fwriedir. Byddwn yn cynnig dyddiadau eraill i chi.
3. DIOGELU’CH ARIAN
Bydd eich blaendâl a’ch taliad terfynol yn cael eu cadw mewn cronfa ymddiriedol tan ddiwedd eich gwyliau.
4 CWYNION A PHROBLEMAU
Os bydd gan y prynwr gwyn, yna dylai godi’r mater ar unwaith gyda’r gyrrwr neu’r swyddfa. Gwnawn ein gorau i ddatrys y broblem er eich boddhad. Os byddwch yn dal yn anfodlon wedi hynny, ysgrifennwch atom o fewn 14 diwrnod ar ôl diwedd y gwyliau. Byddwn yn ateb pob cwyn ysgrifenedig o fewn 7 niwrnod.
5. YSWIRIANT
Rhaid i chi brynu yswiriant - rhag diddymu’r gwyliau, rhag damwain bersonol neu salwch, a rhag colli’ch eiddo. Ni fydd y gwerthwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os caiff eich bagiau neu’ch eiddo eu colli neu’u difrodi, am salwch neu anaf nac am atebolrwydd cyhoeddus yn ystod unrhyw wyliau a drefnir gennym. Ni fyddwn yn atebol chwaith am golled, difrod neu anaf all ddigwydd o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth. Gwnewch yn siwr fod eich yswiriant yn cwmpasu’r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud.
6. IECHYD A DIOGELWCH
Bydd y gwerthwr yn cymryd pob cam rhesymol i wneud yn siwr fod y prynwr yn ddiogel, ond ni fyddwn yn gyfrifol am golled neu ddifrod i eiddo neu am farwolaeth neu anaf wrth ichi gerdded y llwybrau.
7. FFITRWYDD
Un o’r amodau wrth archebu yw bod y prynwr a’r rheini y mae’r prynwr yn archebu drostynt yn iach. Os oes gennych amheuon, cysylltwch â’ch meddyg a rhowch wybod inni am unrhyw broblemau iechyd.
8. ANIFEILIAID ANWES
Rhaid i gwsmeriaid roi gwybod inni os ydynt am ddod â chwn gyda nhw ar y daith.