![]() ![]() |
![]() |
||||||||||||||
Y GwasanaethLlety
Yn gynnwysiedig yn y pecyn gwyliau cewch eich llety, boed mewn Gwely a Brecwast, tai preifat, ffermdai, ac weithiau mewn gwestai a thafarndai. Ceisiwn drefnu gwestai gyda stafelloedd ymolchi preifat lle bo modd. Ond, pe dymunech rywbeth gwahanol, neu westy mwy moethus, rydym yn hapus i drefnu ac addasu'r pris i chi. PrydauMae'r pris yn cynnwys gwely a brecwast Cymreig neu "Continental". Byddwch chi'n gyfrifol am brynu eich pecynnau bwyd a phrydau nos, ynghyd ag unrhyw ychwanegolion. Mae'n bosib cael prydau gyda'r nos yn rhai o'r llefydd aros, ond ran amlaf mae na ddigon o ddewis o westai, tai bwyta, tafarndai yn y pentrefi a'r trefi. Trosglwyddo BagiauTrefnwn hyn rhwng y teithiau. Mi fyddwch yn aros o leiaf 2 noson yn yr un lle ar ein teithiau. Os ydi diwedd y daith rhy bell oddi wrth y gwesty, byddwch yn cael eich cludo nôl i 'r gwesty ar ddiwedd y dydd. Pob tro y byddwch yn cyrraedd gwesty gwahanol, bydd eich bagiau yn aros amdanoch, sydd yn eich gadael chi i gario dim ond y pethau angenrheidiol ar gyfer eich taith ddyddiol. Pecyn GwybodaethCyflenwi mapiau OS gyda'r llwybrau wedi eu marcio'n glir arnynt. Does Dim Angen CarAr ôl cyrraedd Ynys Môn, does dim angen car arnoch, gan ein bod ni yn gwneud y cludo i gyd. Caiff eich car ei gadw mewn lle saff tan ddiwedd eich gwylilau. Ddim Yn Y PrisPecynnau bwyd amser cinio (gallwn ni drefnu hyn ymlaen llaw) Beth i Ddod Gyda ChiEsgidiau cerdded, sannau. Bag dydd i gario pecynnau bwyd a diod. Siaced a throwsus gwrth-ddwr. Cap neu het gynnes. Cap haul/hufen haul. Bocs cymorth cyntaf. Ffon gerdded yn gallu bod yn werthfawr ar rai o'r teithiau yn ogystal â chamera a beinociwlars. Arwahanrwydd Y GwyliauTeithiau hunan-dywysiedig, cael cerdded wrth eich pwysau eich hun. Sut i Ddod i FonCar - o'r M6, ymunwch â ffordd ddeuol yr A55, sy'n dod a chi dros Bont Britannia i Fôn. Bws - i Fangor, Gwynedd. Trên - i Fangor, Gwynedd neu i Lanfairpwll, Ynys Môn. Cwch - o Ddulyn i Gaergybi. Awyren - o Fanceinion neu Lerpwl. Cludiant yn bosibl ond am bris ychwanegol. Awyren o Gaerdydd i'r Fali, Ynys Mon. www.highlandairways.co.uk
|
|||||||||||||||