Logo

Be' Sy'n Newydd

Bu 2008 a 2009 yn llwyddiannus iawn i Crwydro Môn/Anglesey Walking Holidays.  Mi ddaethon i'r brig ddwywaith yn yng ngwobrau Twrisitaeth Môn gan ennill yn y prif gategori "Y Gweithgaredd Awyr Agored Gorau".

Mae'r cwmni newydd gael gwybod eu bod ar restr fer yr un categori yng Ngwobrau 2010.  Bydd yr enillydd yn cael ei wobrwyo ddiwedd Ionawr 2010 mewn seremoni arbennig yng Ngwesty Tre-Ysgawen.

 

Eurwyn Williams,o gwmni Crwydro Môn, yn derbyn ei wobr gan Gethin Morgan yn Nhre-ysgawen, Llangefni.

Yn 2008 fe gafwyd cynllun peilot rhwng Crwydro Môn, Menter Môn a'r Iwerddon,  peilot oedd yn creu pecynnau cerdded ym Môn a Wicklow, Iwerddon.  Bu'r peilot yn llwyddiannus iawn , ac rwan mae 'na becynnau ar gael yn cyfuno'r ddwy wlad.

Ewch i'r dudalen Teithiau Môn a Wicklow

Am fwy o fanylion ffoniwch 01248 713 611 neu e-bostio gwybodaeth@crwydromon.com

Menter newydd yn 2010 fydd Seiclo Môn, lle byddwn yn dilyn yr un patrwm a'n gwyliau cerdded ond i seiclwyr.

 

Dewch yn ôl i'n gwefan o bryd i'w gilydd i weld beth sy'n newydd ar ein safle.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Telephone