![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
![]() |
|||||||||||||||||
Beicio ym Môn
Taith 1 - Bodedern i Borth Swtan Taith: Bodedern - Llanfaethlu - Porth Trwyn - Porth Crugmor - Porth Swtan - Church Hill - Llanfairynghornwy - Mynydd Mechell - Elim - Melin Ddwr Llanddeusant - Bodedern. Hyd: 24 milltir Uchder: 350 metr. Tipyn o fynd fyny ac i lawr yn enwedig at yr Eglwys cyn Porth Swtan. Taith 2 - Niwbwrch i Falltraeth Taith: Niwbwrch - Coedwig Niwbwrch - Ynys Llanddwyn - Malltraeth - Pont Marcwis - Llangaffo - Niwbwrch Hyd: 15½ milltir Uchder: 100m. Mae'r daith yma ar y gwastad, heblaw am un neu ddau o godiad tir yn y rhan olaf o'r daith, un reit serch cyn Llangaffo.
Taith 3 - Cylchdaith Caergybi Taith: - Parc Arfordir Penrhos - Rhoscolyn - Bae Trearddur - Ynys Lawd - Caergybi. Hyd: 20 milltir (23 milltir i gynnwys Parc Gwledig Caergybi) Uchder: Hawdd ar y cyfan. Ar ol Bae Trearddur ceir tipyn o amrywiaeth fyny a lawr i fyny i Ynys Lawd. (90 m). Taith 4 - Bodedern i Gemaes Taith: Bodedern - Melin Llynon - Llanfairynghornwy - Cemlyn - Cemaes - Llanfechell - Carreglefn - Llyn Alaw - Llyn Llywenan - Bodedern Distance: 27½ milltir Uchder: 300m. Rhannau o'r daith yn eithaf fflat ond mae na dipyn o fynd fyny a lawr. Dim dringo rhy galed.
|
||||||||||||||||||