Y Teithiau
Yn aml, gelwir Ynys Môn yn Ynys Rhamant. Llanddwyn ydi Ynys hudolus y Cariadon gyda'i bae llydan a'i thwynni tywod, dwr claear, a'r golygfeydd godidog tuag at Ben Llyn. Pe byddech yn dymuno cerdded y llwybr arfordiol i gyd, dyma'r daith awgrymedig gan Crwydro Môn.
Cyrraedd
Cyrraedd Bangor/Llanfairpwll. Setlo mewn i'ch gwesty gwely a brecwast neu dafarn leol.
Mae Llanfairpwll yn enwog fel y pentref gyda'r enw hiraf, (Llanfairpwll- gwyngyll - goger - y -chwyrn -drobwll - llan- tysilio - gogo - goch). Cewch gadw eich car yma, mewn lle saf, am weddill eich gwyliau.
Yn ôl i'r map
TAITH 1
Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Llyn Rhos Ddu i Moel y Don
HYD: 7½ miles (hawdd)
Cludiant i Lyn Rhos Ddu, lawr at Afon Braint, lle byddwch yn croesi'r Cerri Camu anferth fydd yn eich arwain i Dal-y-Foel gyda golygfeydd bendigedig drosodd am Gaernarfon a mynyddoedd Eryri. Dilyn y Fenai heibio'r Sw For a Fferm y Foel (dau atyniad gwych i blant o bob oed!) gan ddilyn y lan i faes parcio Moel ly Don lle bydd eich trafnidiaeth yn disgwyl amdanoch i'ch cludo'n nol i'r gwesty.
Yn ôl i'r map
TAITH 2
Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Pwllfanogl - Beaumaris
HYD 7 ½ MILLTIR 12 KM (canolig)
Yn ol i Frynsiencyn, lawf i Bwllfanogl, lle roedd yr arlunydd enwog Kyffin Williams yn byw reit ar lan y Fenai. Mae'r rhan yma o'r daith yn mnd a chi heibio'r ddwy bont enwog sy'n croesi Culfor Menai, sef Pont Britannia a Phont Menai. (neu Pont y Borth). Yna, mnd i fyny oddi wrth y mor i bentref Llanldegfan, gyda golgyfeydd trawiadol am Fangor a mynyddoedd Eryri a'r Carneddau. Gadawa'r llwybr y ffordd i ganol caeau sy'n cylchu llyn bychan Y Parc, cyn dod a chi'n nol at y lon, fydd yn eich arwain i dref hanesyddol Biwmares, gyda'i chastell Edwardaidd. (Salfe Byd Enwog), yr Hen Garchar a'r Llys, ynghyd a nifer o fwytai a gwestai.
Yn ôl i'r map
TAITH 3
Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Beaumaris - Llanddona (neu ddiwrnodd ffwrdd ym Miwmares)

HYD : 9 ½ MILLTIR 15 km (Canolig)
Cerdded drwy dref Biwmares, gan basio'r castell canol-oesol a dilyn y llwybr i Briordy Penmon ac ymlaen i Oleudy Trwyn Du, gyda golygfeydd trosodd am Ynys Seiriol. Ymlaen wedyn trwy diroedd fferm gan basio Bwrdd Arthur. Ar ddiwrnod clir, mae'n werth chweil mynd oddiar y llwybr swyddogol i gopa Bwrdd Arthur, gan mai hwn ydi tirwedd uchaf ochr ddwyreiniol yr ynys, gyda golygfeydd na ddylid eu methu o fynyddoedd Eryri. Hyd heddiw, mae olion hen bentref o'r Oes Haearn i'w gweld ar Fwrdd Arhtur - pentref Din Silwy.
Dychwelyd i'r llwybr swyddogol gan ymlwybro trwy diroedd fferm lawr i Daeth Coch. (ger Llanddona). Bydd cludiant yn aros amdanoch wrth yr eglwys ychydig lathenni o'r traeth (ochr Llanddona) fydd yn eich cludo nôl i Fiwmares.
Yn ôl i'r map
TAITH 4
Llwybr Arfordirol Ynys Môn
LLlanddona - Moelfre

HYD 8 ½ MILES 14 KM (Canolig)
Dychwelyd i Landdona. Dilynwch yr arfordir un ai ar hyd y traeth neu ochr y goedwig (DIBYNNU AR Y LLANW), reit rownd i Draeth Coch. Dyma le delfryol il gael seibiant a/neu lluniaeth un ai yn y Ship neu'r Boathouse. Cario ymlaen ar hyd y traeth, yna trwy goedwig cyn dod nol lawr i draeth Benllech. Mae Benllech yn daeth hen ffasiwn gyda'i siopau a stondinnau hufen ia, mulod a nofio saff. (Traeth Baner Glas). Aiff y llwybr yn ei flaen i fyny'r clogwyni o Benllech cyn disgyn i draeth bychan tywodlyd arall - - Traeth Bychan. Dilyn y llwybr o famma, trwy dir ffarm fydd yn eich arwain i un o'r pentrefo dealf ar ochr ddwyreiniol yr ynys - Moelfre.
*Ymwelodd rhaglen boblogaidd y BBC "Coast" â Moelfre yn 2006
Yn ôl i'r map
TAITH 5
Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Moelfre - Point Lynas , Porth Eilian

HYD 11 MILLTIR 20 KM (Canolig)
Cychwn ar ôl brecwast o Foelfre am Draeth Lligwy a Thraeth yr Ora. Ar gychwyn y daith heddiw, mi fyddwch yn mynd heibio Amguedda'r Bad Achub a cherflun efydd o'r llywiwr cwch enwog Dic Evans, fu'n byw'n Moelfre hyd ei farw. Cewch ei synnu pa mor agos i'r traeth mae'r creigiau lwyddodd i suddo'r Royal Charter. O Draeth yr Ora aiff y llywbr a chi tua'r gogledd trwy wylltir naturiol, sy'n ymdebygu i rannau o'r Iwerddon, gan eich arwain yn y diwedd at oleudy Point Lynas, sydd bellach yn dý haf. Bydd cludiant yn eich disgwyl ar y drofan ger bae bychan Porth Eilian.
Yn ôl i'r map
TAITH 6
Llwybr Arfordiol Ynys Môn
Porth Eilian - Cemaes

HYD 9 milltir 15 km (caled)
Dychwelyd i Point Lynas ar gyfer cychwyn taith y diwrnod. Heibio Ffynnon Eilian, ffynnon fechan sydd wedi ei chysegru i Sant Eilian. Ewch yn eich blaen i bentref pysgota Porth Amlwch, gan osgoi Amlwch ei hun. Bydd clogwynni eithaf uchel yn eich arwain i Borth Llechog (Bull Bay). Cymerwch ysbaid i eistedd ar y creigiau i wylio'r morloi a'r dolffiniaid yn chwarae yn y dwr cynnes, cyn dilyn y llwybr i Porth Wen, bae anghysbell na ellid ei gyrraedd ond mewn cwch neu ar droed. Yma mae adfeilion o hen weithfeydd brics, gyda'i simneiau tal a phoptai siap cychod gwenyn. O famma ymlaen, mi fydd rhaid dringo reit uchel, gyda golygfeydd o Ynys Badrig (Middle Mouse).
Os ewch oddiar y llwybr ychydi ac anelu am y trwyn mi gyrhaeddwch chi bywnt mwyaf gogleddol Ynys Môn a Chymru gyfan!!!!
(John O'Groats Cymru).
Dychwelyd i'r llwybr swyddogol, lawr i Borth Lleianna ac Eglwys Llanbadrig. Oddi yma, cymerwch y llwybr arfordiriol i bentref Cemaes lle byddwch yn treulio'r noson.
Yn ôl i'r map
TAITH 7
Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Cemaes - Porth Swtan (Church Bay)

HYD 10 ½ milltir 17 km (caled)
Cychwyn o Gemaes ar hyd y llwybr swyddogol sy'n eich tywys heddiw ar hyd y rhan mwyaf anghysbell o'r teithiau i gyd. O Gemaes, dilynwch y llwybr i Ben Wylfa. Mi welwch A tomfa yr Wylfa yn y pellter rhwng Cemaes a Thrwyn Carmel. Os oes diddordeb, piciwch mewn i Ganolfan yr Ymwelwyr a'r tai bach!.
Dilynwch y llywbr i fae bychan a gerddi "Cestyll". Croesi pompren wrth ymyl adfeilion hen felin i lawr i draeth anghyffredin Bae Cemlyn, gyda'i "lagoon" sy'n hafan i fywyd gwyllt. Os am seibiant yma, pam nad ewch i Ffatri Jam Fferm Nanner (sydd rhyw filltir oddiar y llwybr swyddogol), lle cewch baned a bara brith bendigedig. Ymlaen wedyn i Hen Borth a Thrwyn Carmel. Oddi yma, mae Ynysoedd y Moelrhoniaid (Skerries) a'r goleudy i'w gweld yn glir. Yn ystod tymor yr haf, peth eithaf cyffredin ydi gweld ambell li forlo yn tor-heulo ar y creigiau neu ddolffin yn nofio yn y bae.
O Drwyn Carmel, ewch yn eich blaen i Ynys Fydlyn, ffurfiant craig ddiddorol, ar hyd y llwybr fydd yn eich arwain i ddiwedd taith heddiw ym Morth Swtan. (Church Bay). Cyn mnd adref beth am ymweld â thy to gwellt olaf Môn - Bwthyn Swtan.
*Ymwelodd rhaglen boblogaidd y BBC "Coast" Charmel gan ganolbywntio ar hanes teulu o'r ardal oedd yn enwog am "Osod Esgyrn".
Yn ôl i'r map
TAITH 8
Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Porth Swtan (Church Bay) - Caergybi

HYD- 14 milltir 22 km (canolig)
Os na fu ymweliad â Bwthyn Swtan ddoe, beth am gychwyn yno heddiw..
Nid yw'r rhan nesaf o'r llwybr mor uchel â ddoe ond yn draiwadol iawn mewn mannau. Gan fod yr Afon Alaw yn rhannu'r daith, ac yn rhy beryglus i'w chroesi, mae'n rhaid gadael yr arfordir a mynd am y wlad. Dilyn glannau'r afon Alaw, sy'n frith o fywyd gwyllt o bob math, cyn ymuno â phrif ffordd Llanfachraeth a Llanynghenedl, cyn dychwelyd i'r arfordir, gyda golygfeydd mawreddog o Fynydd Caergybi a Chaergybi ei hun.
O'r Fali ewch ymlaen at Gob Gaergybi, gan basio'r tolldy sydd bellach yn stafelloedd te, ymlaen trwy Barc Arfordirol Penrhos i gyrraedd porthladd Caergybi. Oddi yma mae'r holl gychod yn croesi am yr Iwerddon. Mae'r daith yma yn 14 milltir ond gallwch ei byrhau i'ch siwtio chi.
Yn ôl i'r map
Mordaith I'r Iwerddon (Opsiwn)
Cymerwch gwch gyflym (9 munud o siwrnai) i Ddulyn, a mwynhau seibiant perffaith yn ymweld â'r brifddinas fywiog yma. Cyfle i yfed peint o Guinness yn un o'r cannoedd o dafarndai Gwyddelig, neu pam nad ewch i ymweld â'r Storws Guiness ei hun. Fel arall, ewch i'r amgueddfeydd niferus, neu cymerwch fws dybl-decar pwrpasol i weld atyniadau'r ddinas.
Yn ôl i'r map
TAITH 9 (fel arall)
Llwybr Arfordiol Ynys Môn
Caergybi- Bae Trearddur

HYD - 12 milltir 19km (caled)
Hon, mae'n bur debyg ydi'r daith mwyaf trawiadol ohonyn nhw i gyd, yn codi i 610 metr o uchder, gyda digonedd o natur wyllt a thirwedd o harddwch naturiol.
Gan gychwyn ym mhorthladd Caergybi, cymeryd y llwybr i ben Mynydd Caergybi, gan basio hen gaer fynyddig o'r Oes Haearn, fydd wedyn yn arwain at oleudy enwog Ynys Lawd (South Stack) a Thwr Elin. Erbyn heddiw yr RSPB ydi perchnogion y twr sy'n gyfrchfan boblogaidd i adarwyr o bob rhan o'r byd. Ewch oddi ar y llwybr swyddogol i ymweld â'r goleudy - sydd yn un o'r lleoliadau mwyaf dramatig a chyffrous ar Ynys Môn. Wedi cerdded y 400 o risiau i lawr at y goleudy, gallwch fwynhau arddangosfeydd ar fywyd adar yr ynys, ac ymweld â'r Stafell Beirianyddol, cyn dringo'r grisiau i ben y goleudy.
Wedi dychwelyd ar y llwybr swyddogol, mae'r tirwedd yn llyfnhau i draethau bychain fel Porth Dafarch gan orffen taith heddiw ym Mae Trearddur.
* Bu'r gyfres deledu enwog "Most Haunted" yn ffilmio yng Ngoleudy Ynys Lawd yn 2007 yn chwilio am brofiadau paranormal. Chafon nhw mo'u siomi!!!
Yn ôl i'r map
TAITH 10
Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Bae Trearddur- Pontrhydbont- Bae Trearddur

HYD - 10 milltir (CYLCHDAITH) 15km (canolig)
Cychwyn o Fae Trearddur ac wrth adael y pentref, mae'r tirlun yn mynd yn fwy garw, gyda ffurfiant creigiau diddorol ac anghyffredin fel y Bwa Gwyn a'r Bwa Du. Dilynwch y llwybr i Fynydd Rhoscolyn a chymerwch seibiant wrth Ffynnon Santes Gwenfaen. Yn y Canol Oesoedd, roedd y bobl yn credu bod dyfroedd y ffynnon yma yn gallu gwella'r rhai oedd yn sâl eu meddwl!!
Ymlaen ar hyd traethau Borthwen a Thraeth Llydan, cyn gadael am y wlad ar draws tir corsiog a thawel i Bontrhydbont ac yna ar hyd y lôn yn ôl i Fae Trearddur.
Yn ôl i'r map
TAITH 11
Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Pontrhydbont- Aberffraw

HYD -13 ¾ milltir 22km (hawdd)
Mae'r rhan yma o'r arfordir yn nefoedd i syrffwyr. Cychwynna'r daith yn eithaf gwastad a thywodlyd gan fynd ar hyd traethau Cymyran a Rhosneigr. Heddiw, yn bendant, mi fyddwch yn ymwybodol o fynd a dwad awyrennau milwrol yr awyrlu yn y Fali. Ymhellach ar hyd y llwybr arfordirol, yn yr hen ddyddiau, roedd y rhan yma o'r ynys yn enwog am ei lladron (Lladron Crigyll - enw'r afon sy'n rhedeg i'r môr ger Rhosneigr). Cipiwyd aml i gwch gan y lladron, a lladdwyd teithwyr a chriwiau am eu hysbail. Erbyn heddiw, mae Rhosneigr yn brysur fel canolfan wyliau, ond yn yr hen amser pentref pysgota bach tawel ydoedd.
Oddi yma, dilynwch yr arfordir gyda golygfeydd ysblennydd tuag at Eryri a'r Eifl ym Mhen Llyn.
Ar y llwybr yn y fan yma, mi fyddwch yn mynd heibio siambr gladdu o'r Oes Neolithig - BARCLODIAD Y GAWRES. Ymlaen gan ddilyn perimedr Trac Rasio Ynys Môn at y traeth yn Llangwyfan, lle gwelwch eglwys fechan Cwyfan ynghanol y môr. Mae modd croesi i'r eglwys ar lanw isel. Dilynwch y llwybr i draeth Aberffraw.
Yn ôl i'r map
TAITH 12
Llwybr Arfordiriol Ynys Mon
Aberffraw - Niwbwrch
HYD - 11 ½ milltir 18 km (hawdd)
Cychwynna taith heddiw ar hyd twyni tywod, yna ar draws tir fferm i Hermon ac Eglwys Llangadwaladr. Unwaith eto, ceir golygfeydd trawiadol tuag at Eryri wrth i chi agosau am Aber Malltraeth. Y rhan yma o'r ynys ysgogodd Charles Tunnicliffe i baentio amryw o'i luniau. Bu'n byw ym Malltraeth o 1947 hyd at ei farw ym 1979. Mae'r aber yn cael ei ystyried, yn haeddianol, fel un o bwysgirwydd cenedlaethol oherwydd y cyfoeth o fywyd gwyllt sy'n byw yma. Ym Mallthraeth ei hun, adeilawyd cob i ddwyn tir oddiar y môr. Heddiw, tir fferm sydd yma.
O Falltraeth cerddwch y cob i Goedwig Niwbwrch lle bydd eich cludiant yn aros amdanoch chi.
Yn ôl i'r map
TAITH 13 Niwbwrch i Lyn Rhos Ddu

HYD - 7 1/2 milltir
Cewch eich cludo i Goedwig Niwbwrch gan gerdded trwy'r goedwig am ychydig filltiroedd - lle mae bywyd gwyllt a natur ar eu gorau. Daw'r llwybr allan o'r goedwig ar draeth Llanddwyn. Croeswch (os ydi'r llanw'n caniatau) i ynys Llanddwyn, Ynys y Cariadon. Mae'r ynys wedi cael ei chysegru i Dwynwen, santes y cariadon. Mae 'na oleudy, rhes o fythynod gwyngalchog y peilotiaid, traeth euraidd a chroes Geltaidd. Oddi yma, cerddwch y traeth ac ar hyd y twyni i Lyn Rhos Ddu ac ymlaen i Aber Menai gan ddychwelyd i Lyn Rhos Ddu ar gyfer eich cludiant.
Yn ôl i'r map
3 Penrallt, Porthaethwy, Ynys Mon. LL59 5LP
|