Logo

Pecyn Ynys Cybi - 5 Diwrnod
Pecyn sy'n eich lleoli ym Mae Trearddur ar Ynys Cybi ar arfordir gogledd orllewinol Ynys Môn.
5 NOSON gwely a brecwast mewn gwesty bychan gydag ystafell "en suite". 4 DIWRNOD O GERDDED, 4 PECYN BWYD, manylion y teithiau a mapiau OS, cludiant nôl a mlaen o'r Llwybr pan fo angen.
Gwybodaeth pellach.....

Dydd 1.
Cludiant o orsaf Caergybi a'ch trosglwyddo i'r gwesty ym Mae Trearddur. Mae Bae Trearddur ar ochr orllewinol Ynys Cybi, yn edrych allan i Fôr Iwerddon.   Mae'r pentref wedi ei leoli o amgylch bae hyfryd, gyda thraeth euraid (Baner Glas).  Ardal boblogaidd iawn i dwristiaid ar Ynys Môn. 

Dydd 2
Cludiant o'r gwesty i Borth Swtan (Church Bay) lle cewch ymweld â Thy Swtan, yr unig fwthyn tô gwellt sydd ar ôl ar yr ynys.  Wedyn, cewch gerdded yr arfordir gogleddol tuag at Y Fali, gyda golygfeydd godidog am Fynydd Caergybi a phorthladd prysur y llongau fferi i'r Iwerddon. 
Mi fyddwch yn ymweld â thraethau cuddiedig Traeth Crugmor, Porth Trwyn, Porth Trefadog, a Phorth Tywyn Mawr, cyn ymuno â'r llwybr cysgodol o amgylch y creigiau fydd yn eich arwain i groesi'r Cob (Stanley Embankment) i Ynys Cybi a Gwarchodfa Natur Penrhos, gan orffen eich taith yng Nghaergybi ei hun.

Dydd 3
Cychwyn heddiw yng Nghaergybi, gan adael y porthladd prysur a dringo'r 610 metr i ben Mynydd Caergybi, gan basio olion caer yn dyddio nôl i'r Oes Haearn.. 
Dilyn y llwybr at Oleudy enwog Ynys Lawd (South Stack).  Ewch lawr y 400 o risiau i'r amgueddfa sy'n olrhain hanes y goleudy ac/neu ymwelwch â thwr gwylio'r RSPB (Twr Elin) cyn dilyn yr arfordir dramatig o gylch y creigiau gyda golygfeydd bendigedig trosodd am Ben Llyn, cyn diweddu ym Mae Trearddur ei hun.

Dydd 4
O Fae Trearddur, mi fydd y llwybr yn eich arwain lawr ochr orllewinol Ynys Cybi, ar hyd arfordir dramatig gyda ffurfiadau creigiaiu difyr fel y Bwa Gwyn a'r Bwa Du.  Yna dringo'n raddol nes cyrraedd Rhoscolyn a'i Ffynnon Sanctaidd (Ffynnon Gwenfaen) cyn disgyn unwaith eto i draethau melyn Borthwen a Thraeth Llydan (Slver Bay).  O'r fan yma, mae'r llwybr yn eich arwain ar hyd lonydd cefn gwlad a thir fferm nes cyrraedd Pontrhydbont. (Four Mile Bridge).

Dydd 5 
Y diwrnod olaf - eithaf gwastad, gyda thraethau llydan tywodlyd, fydd yn mynd heibio Barclodiaid y Gawres ( siambr gladdu o'r Oes Neolithig, - y fwyaf o'i bath yng Nghymru).  
Mae'r llwybr yn eich arwain i Egwlys Santes Cwyfan, eglwys sydd wedi ei hadeiladu ar graig ynghanol y môr.  Ar lanw isel, mae'n hawdd croesi i 'r eglwys.  Oddi yma, dilyn yr arfordir i bentref Aberffraw, a fu unwaith yn brifddinas Cymru!!!   Hyd at 1282 Aberffraw oedd un o brif lysoedd Tywysogion Gwynedd hyd farwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf..

Dydd 6
Gadael o orsaf drenau Caergybi.

PRIS Y PERSON : £370 (2 YN RHANNU)/ £395 (STAFELL SENGL)